Trefnwch digwyddiad Diwrnod Ada Lovelace

Eich digwyddiad Diwrnod Ada Lovelace

Diolch am eich diddordeb mewn trefnu digwyddiad annibynnol i ddathlu Diwrnod Ada Lovelace!

Pob blwyddyn, mae pobl fel chi’n trefnu digwyddiadau o gwmpas y byd, i dynnu sylw at gyflawniadau merched mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM yn y Saesneg), ac i roi cefnogaeth i ferched a menywod sydd yn astudio neu’n gweithio mewn STEM. O gynhadleddau i bartïon te, o gyfarfodydd i arddangosfeydd amgueddfa, mae’r amrywiaeth o ddigwyddiadau mor ysbrydoledig â’r menywod anhygoel y maen nhw’n eu cynnwys.

Y digwyddiadau hyn yw’r peth sy’n gwneud Diwrnod Ada Lovelace yn llwyddiant mawr.

Er mwyn i’ch helpu chi drefnu eich digwyddiad chi, dan ni wedi creu Pecyn Trefnydd Digwyddiad Annibynnol, gyda gwybodaeth, ysbrydoliaeth ac adnoddau y gallwch chi ei ddefnyddio, gan gynnwys taflenni a phosteri gwag.

Mae’r pecyn yn cynnwys:

  • Syniadau ar gyfer trefnu digwyddiad ALD
  • Syniadau ar gyfer fformat digwyddiadau
  • Canllawiau digwyddiad
  • Adnoddau defnyddiol ar gyfer trefnwyr digwyddiad

Hefyd:

  • Templed poster A3
  • Templed poster A4
  • Templed taflen A5
  • Templed poster US Letter
  • Templed taflen US Half-Letter
  • Logo ‘ALD Indie Event’ (gwyn a thryloyw)

Lawrlwythwch yr adnoddau o Figshare.

Hefyd, mae gennym ni restr ebost newydd ar gyfer trefnwyr digwyddiad, felly os ydych chi eisiau aros yn gyfoes gyda’n newyddion trefnwyr digwyddiad i gyd, cofrestrwch nawr os gwelwch yn dda!

Am Ddiwrnod Ada Lovelace

Dathliad rhyngwladol o gyflawniadau merched mewn STEM yw Diwrnod Ada Lovelace, sydd yn cael ei gynnal ar yr ail ddydd Mawrth o Hydref bob blwyddyn. Dechreuwyd yn 2009 gan Suw Charman-Anderson, fel dydd blogio am ferched mewn tecnoleg, ac wedi’i ddatblygu i fod yn ddathliad ehangach o ferched mewn STEM. Mae pobl yn dadansoddi STEM yn eu ffordd eu hunain.

Ers 2010, rydym wedi cynnal ein prif ddigwyddiad yn Llundain, sef ‘cabaret gwyddoniaeth’ lle mae menywod blaenllaw yn STEM yn sôn am eu gwaith neu’r menywod sydd wedi eu hysbrydoli. Mae pobl o gwmpas y byd yn cyfrannu at y diwrnod trwy ysgrifennu am fenywod  maen nhw’n eu edmygu am eu gwaith ar flogiau, papurau newydd, cylchgronau neu gyfnodolion. Ac mae pobl eraill, fel chi, yn trefnu digwyddiadau lleol i ddathlu’r diwrnod. Bob blwyddyn rydym yn cael dwsinau o ddigwyddiadau ledled y byd, a bob blwyddyn rydym yn gobeithio am fwy, sy’n golygu bod angen i chi gymryd rhan!

Pam trefnu digwyddiad Diwrnod Ada Lovelace?

Mae amcanion Diwrnod Ada Lovelace yn syml ac yn glir:

  • i dynnu sylw at gyflawniadau, darganfyddiadau a dyfeisiadau menywod mewn STEM
  • i greu modelau rôl newydd ar gyfer merched a menywod fel ei gilydd trwy adrodd straeon menywod mewn STEM
  • i annog merched a menywod i astudio a gweithio yn y meysydd STEM gan eu hysbrydoli a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau

Mae yna sawl math o ddigwyddiad a fydd yn cwrdd ag un neu ragor o’r nodau hyn a bod yn llawer o hwyl i’r bargen! Bydd trefnu digwyddiad lleol i ddathlu Diwrnod Ada Lovelace yn ein helpu i gyrraedd cymunedau na fyddent fel arall yn clywed am y dydd.

Nid yw Diwrnod Ada Lovelace yn elusen, felly nid ydym yn gofyn i chi redeg digwyddiadau codi arian (er ein bod ni bob amser yn chwilio am nawdd!). Mae hynny’n golygu y gallwch ganolbwyntio ar gynhyrchu digwyddiad sy’n apelio at eich cymuned ac sy’n cefnogi nodau Diwrnod Ada Lovelace.

Fformat Digwyddiadau

Os ydych chi’n meddwl pa fath o ddigwyddiad i’w drefnu, peidiwch â phoeni, mae yna lawer o wahanol fformatau a all weithio’n dda iawn. Gallwch chi feddwl mor fawr neu mor fach ag y dymunwch, yn dibynnu ar eich hoffterau ac adnoddau, a’r amser sydd ar gael.

Er mwyn eich helpu gyda rhywfaint o ysbrydoliaeth, dyma rai syniadau o Ddiwrnodau Ada Lovelace y gorffennol:

Gweithdai

Beth allwch chi ddysgu, neu helpu merched a/neu fenywod i’w harchwilio? Gall gweithdai ddysgu sgiliau technegol, megis codio, datblygu apiau, neu roboteg, neu helpu menywod i ddatblygu sgiliau gyrfa fel siarad yn gyhoeddus.

Sgyrsiau

Un o’r mathau o ddigwyddiad mwyaf poblogaidd ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace yw’r sgwrs, ond mae sawl fformat gwahanol i’w hystyried:

  • Darlithoedd ffurfiol i gynulleidfa arbenigol
  • Sgyrsiau â chynulleidfa gyffredinol
  • Cabarets STEM, lle mae siaradwyr yn siarad am 10 i 15 munud
  • Pecha Kucha, sgyrsiau gyda 20 o sleidiau yn union, pob un yn ymddangos am 20 eiliad yn union, i’r cyflwynydd siarad â nhw
  • Sgyrsiau fflach, sydd fel arfer yn para am 5 munud

Gallwch gynnal menywod yn STEM sy’n siarad am eu meysydd arbenigedd, neu wahodd menywod (a/neu ddynion) i siarad am y merched yn STEM sy’n gwneud gwaith maen nhw’n edmygu, neu’n trafod ymchwil i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae pob dull yn cefnogi ein neges.

Trafodaethau panel, dadleuon

Mae trafodaethau panel yn fformat poblogaidd iawn, efallai oherwydd eu bod yn rhoi llai o lwyth ar y siaradwyr. Mae rhai trafodaethau panel yn gofyn bod pob siaradwr yn siarad am bump neu ddeg munud cyn i’r ddadl ddechrau, mae eraill yn mynd amdani’n syth. I gael sgwrs sylweddol, ceisiwch gadw nifer y panelwyr yn isel, dim mwy na phedair ag un llywydd, a chadw unrhyw sgyrsiau rhagarweiniol yn fyr iawn.

Cyfarfodydd, cymysgwyr, diodydd rhwydweithio

Nid oes unrhyw ddigwyddiad mor hawdd i’w drefnu fel cymysgedd ar gyfer menywod yn STEM! Y cyfan sydd ei angen arnoch yw lle, efallai diodydd a byrbrydau, ac efallai thema i’ch digwyddiad. Mae rhai cymysgwyr yn cychwyn gyda sgwrs fer, ond mae’r mwyafrif o’r amser yn cael ei neilltuo i ferched gwrdd a chymdeithasu â phobl eraill sydd â diddordebau tebyg â nhw. Mae’r rhan fwyaf o gymysgwyr DAL yn ddigwyddiadau merched yn unig.

Golyg-a-thons Wicipedia

Mae ‘golyg-a-thon’ yn ddigwyddiad lle mae pobl yn dod at ei gilydd i ychwanegu gwybodaeth i Wicipedia. Mae golyg-a-thons DAL yn canolbwyntio ar ychwanegu neu ehangu tudalennau am ferched yn STEM, ac yn aml bydd thema o amgylch disgyblaeth benodol. Os oes grŵp Wicimedia yn agos atoch chi, efallai y byddan nhw’n gallu eich rhoi mewn cysylltiad â golygydd arbenigol Wicipedia a all ddarparu peth hyfforddiant sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r offer golygu. Mae hefyd yn helpu cael llyfrgellydd neu ymchwilydd wrth law i gynorthwyo’r rhai sy’n mynychu dod o hyd i ffynonellau gwybodaeth dibynadwy. Darllenwch fwy am sut i drefnu golyg-a-thon ar Wicipedia.

Teithiau amgueddfa neu oriel, arddangosfeydd, sioeau

Os ydych chi’n guradur amgueddfa, oriel neu gasgliad, gallech ystyried taith arbennig sy’n canolbwyntio ar y menywod yn STEM y mae eu gwaith yn cael ei arddangos. Neu efallai creu arddangosfa arbennig o arteffactau, llythyrau a/neu gelf sy’n canolbwyntio ar fenywod yn STEM.

Partïon te, boreuau coffi

Gall awyrgylch mwy hamddenol parti te neu fore coffi, gydag un neu fwy o siaradwyr, fod yn ffordd wych o gyrraedd pobl a allai gael eu dieithrio gan ddarlith ffurfiol neu’r rhai sy ddim ar gael gyda’r nos.

Trwswyr, ailwampwyr, gwneuthurwyr a chrefftwyr

Weithiau, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi i bobl y lle, yr offer a’r cyfle i fod yn greadigol. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld dadeni technoleg a chrefft ymarferol, ac mae yna lawer o gyfleoedd i ddysgu pobl sut i atgyweirio, addasu a gwneud pethau. Mae hefyd gorgyffwrdd enfawr gyda chrefftwaith, gyda phopeth o fathemategwyr yn crosio mathemateg geometreg an-Ewclidaidd i grefftwyr sy’n gwneud celf a ysbrydolir gan fenywod yn STEM. Mae’r posibiliadau ar gyfer gweithdy hwyliog a chreadigol yn ddiddiwedd!

Jams gemau, diwrnodau hacio

Mae dod â chodwyr, dylunwyr, cerddorion a storïwyr at ei gilydd i greu gemau cyfrifiadurol newydd neu apiau symudol yn ffordd wych o helpu i greu cyfeillgarwch newydd a chynyddu hyder y cyfranogwyr yn eu sgiliau. Mae mannau merched-yn-unig yn bwysig ar gyfer jams gemau a diwrnodau hacio, gan fod digwyddiadau cymysg yn dueddol o gael eu dominyddu gan ddynion, a gall hynny wneud rhai merched yn anghyfforddus, yn enwedig os bydd y digwyddiad yn rhedeg yn hwyr i’r nos.

Cwis tafarn

Pa ffordd well o gyfuno noson berffaith yn y dafarn a Diwrnod Ada Lovelace nag i gynnal cwis tafarn! Un o’r digwyddiadau hawsaf i’w drefnu, mae cwis tafarn am fenywod yn STEM yn ffordd hwyliog o brofi gwybodaeth pobl ac hefyd o rannu ffeithiau anhysbys!

Rhywbeth hollol wahanol

Wrth gwrs, dim ond awgrymiadau yw’r fformatau digwyddiad hyn – mae digon o gyfle i chi wneud rhywbeth hollol wahanol! Beth bynnag a wnewch, mwynheuwch a phob lwc!

Canllawiau Digwyddiad

Tra cynhelir Diwrnod Ada Lovelace ar yr ail ddydd Mawrth mis Hydref bob blwyddyn, cynhelir digwyddiadau annibynnol trwy gydol y mis, felly gallwch chi ddewis dyddiad sy’n gweithio orau i chi a’ch cymuned. Os ydych mewn dinas fawr fel Llundain, Manceinion, Turin neu Efrog Newydd, byddwch yn ymwybodol bod yna ddigwyddiadau lluosog, felly efallai yr hoffech ystyried cynnal eich digwyddiad ar ddiwrnod neu benwythnos cyfagos.

Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i gynnal eich digwyddiad, ond rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni beth rydych chi’n ei wneud trwy ein ffurflen ar-lein.

Canllawiau digwyddiadau

Nid ydym yn gorfodi unrhyw reolau ar gyfer digwyddiadau annibynnol, ond mae rhai canllawiau yr hoffem i chi ystyried eu mabwysiadu.

Byddwch yn gynhwysol

Mae Diwrnod Ada Lovelace yn ymwneud â phob merch, waeth beth yw eu hoedran, ethnigrwydd, neu unrhyw nodwedd arall. Pan fyddwch yn gwahodd siaradwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd y tu allan i’r rhestr o ‘yr un hen wynebau’, ac yn gwahodd grŵp sy’n amrywiol.

Byddwch yn agored

Ysbryd Diwrnod Ada Lovelace yw bod yn agored, yn gyfeillgar, yn gynnes, yn barchus, yn chwareus ac yn chwilfrydig.

Byddwch yn dryloyw

Rhowch fanylion cyswllt yn eich deunyddiau hyrwyddo, a gwnewch yn glir bod eich digwyddiad Diwrnod Ada Lovelace yn cael ei drefnu yn annibynnol ar y prif ddigwyddiad.

Byddwch yn hael

Os ydych chi’n tynnu lluniau neu fideo o’ch digwyddiad – ac rydym yn argymell yn gryf eich bod chi! – rhyddhewch nhw o dan drwydded Comins Creadigol, gydag enw ar gyfer priodoli, fel y gall eraill eu rhannu a’u hysbrydoli ganddynt.

Cadwch mewn cysylltiad

Rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei gynllunio, a sut yr aeth popeth wedyn. Os oes gennych chi luniau, fideo, adolygiad neu adroddiad o’ch digwyddiad, cofiwch rannu hynny gyda ni fel y gallwn ddweud wrth ein cymuned am y peth!

Adnoddau Digwyddiad

Brandio, logos a dolenni

Brandio

Peidiwch â defnyddio’r ymadroddion “Finding Ada” neu “Diwrnod Ada Lovelace” neu “Diwrnod Ada” mewn unrhyw cyfeiriadau gwefan, enwau cyfrif Twitter, neu URLau Facebook, neu ddefnyddio’r ymadroddion hynny mewn unrhyw ffordd a allai achosi dryswch. Fel sefydliad bach sy’n rhedeg diwrnod byd-eang, mae’n bwysig bod ein cynulleidfa yn gallu gwahaniaethu’n rhwydd rhwng cyfrifon, gwefannau a digwyddiadau swyddogol, a’r rhai a grëwyd ac a drefnir yn annibynnol gennych chi. Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn aml yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau i’r wasg, cefnogwyr posibl a chefnogwyr chwilfrydig, ac mae’n bwysig eu bod yn gallu cyrraedd ni’n uniongyrchol.

Yn lle hynny, rydym wedi datblygu confensiwn enwi safonol – eichsefydliad_ALD neu eichsefydliad-ALD – ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac URLau digwyddiad annibynnol, gan ddefnyddio naill ai danysgrif neu gysylltnod fel gwahanydd. Bydd hyn yn eich helpu i hyrwyddo eich digwyddiadau DAL eich hun, tra’n cadw’ch hunaniaeth brand ac osgoi dryswch gyda @findingada. Awgrymwn:

  • Twitter: @eichsefydliad_ALD
  • tudalen Facebook: /eichsefydliad_ALD
  • Gwe: www.eichsefydliad_ALD.com (neu unrhyw ôl-ddodiad arall)

Bydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod y gymuned yn deall pa sefydliadau sydd y tu ôl i’r cyfryngau cymdeithasol a chyfrifon gwe gwahanol. A bydd hynny’n helpu i roi hwb i’ch proffil, yn ogystal â darparu eglurder ar gyfer y gymuned Diwrnod Ada Lovelace ehangach.

Rydym yn eich annog yn gryf i ddefnyddio eich brand gweledol eich hun fel eich prif frand, gyda Bathodyn ‘Digwyddiad Annibynnol’ Diwrnod Ada Lovelace (gweler isod) mewn sefyllfa eilradd.

Gwaith celf

Defnyddiwch Bathodyn ‘Digwyddiad Annibynnol’ Diwrnod Ada Lovelace ar eich gwefan a deunyddiau cyhoeddusrwydd. Gallwch ei lawrlwytho o Figshare, gyda chefndir gwyn neu dryloyw.

Peidiwch â defnyddio ein logo safonol, gan fod hynny’n cael ei gadw ar gyfer digwyddiadau swyddogol. Dyluniwyd y Bathodyn gwreiddiol gan Sydney Padua, yr ydym yn ddiolchgar iawn iddi!

Dolenni

Fe fyddem yn ei werthfawrogi pe gallech gysylltu â’n gwefan, findingada.com ac os yn bosibl, i’n cyfrif Twitter, @findingada, pan fyddwch chi’n ysgrifennu am eich digwyddiad.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r testun hwn yn eich deunyddiau hyrwyddo os hoffech chi:

Mae’r digwyddiad annibynnol hwn yn rhan o Ddiwrnod Ada Lovelace, dathliad byd-eang o ferched mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Gallwch eu dilyn ar Twitter: @findingada.

Sut y gallwn ni eich helpu chi

Sut y gallwn ni hyrwyddo’ch digwyddiad

Bydd ein gwefan yn rhestru’r holl ddigwyddiadau y dywedir wrthym amdanynt gan drefnwyr digwyddiadau fel chi. Pan fyddwch chi’n llenwi’r ffurflen ddigwyddiad, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i helpu i hyrwyddo’ch digwyddiad trwy ei phostio ar ein gwefan, ar Twitter ac yn ein cylchlythyr misol. Gallwch hefyd ymuno â’n cymuned ar-lein a siarad â threfnwyr eraill am eich digwyddiad.

Ymunwch â ni ar Figshare

Rydym wedi cydweithio â Figshare i ddarparu canolfan ganolog i holl drefnwyr digwyddiadau Diwrnod Ada Lovelace i rannu eu lluniau, fideos, cyflwyniadau, posteri ac unrhyw gyfryngau eraill y maent yn eu cynhyrchu. Byddwn hefyd yn cynnal deunyddiau gan ddigwyddiadau Ada Lovelace Day Live! ar Figshare, ynghyd â deunyddiau eraill yr ydym yn eu cynhyrchu.

Gall y cyfryngau ar Figshare gael eu rhannu a’u cynnwys mewn unrhyw le o gwmpas y we, ac mae Figshare yn darparu ystadegau gwylio ac ystadegau eraill, sy’n caniatáu i ni a chi wybod ble a phryd y caiff ein deunyddiau eu gweld. Bydd bod yn rhan o gymuned Figshare hefyd yn caniatáu i bawb gyrraedd mwy o bobl, ac i sicrhau bod eich gwaith caled yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi’n ehangach.

Os ydych chi wedi trefnu digwyddiad Diwrnod Ada Lovelace annibynnol yn y gorffennol a bod gennych luniau, fideos, cyflwyniadau neu adnoddau eraill yr hoffech eu rhannu, mae eu llwytho i fyny yn hawdd:

  • Agorwch cyfrif ar Figshare
  • Ewch i My Data
  • Cliciwch ‘Create a new item’
  • Ychwanegwch eich cynnwys a llenwch y ffurflen. Y mwyaf metadata y gallwch ei ychwanegu, y gorau.
  • RHAID i chi ddefnyddio’r tag “Ada Lovelace Day” (yn Saesneg) a’r tag blwyddyn briodol, “ALD18”, “ALD17” ac ati, er mwyn tynnu eich cynnwys i’n prif dudalen a’n tudalennau blynyddol. Os na fyddwch yn defnyddio’r tagiau hyn, ni fydd eich cynnwys yn cael ei atodi i’n porth.
  • Cyhoeddwch dim ond pan fyddwch chi’n barod – gellir golygu eitemau sy wedi’u cyhoeddi, ond ddim eu dileu. Defnyddiwch y ategyn Rhagolwg i sicrhau bod eich tudalen yn edrych fel yr ydych am ei wneud.
  • Os byddwch chi’n mynd yn sownd, edrychwch ar dudalen gymorth Figshare.

Gallwch lwytho lluniau, fideo, sain, cyflwyniadau, PDFs, delweddau, setiau data a mwy! Y mwyaf o ddeunyddiau y byddwn yn eu casglu ynghyd, po fwyaf y byddwn yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel a wneir gan fenywod yn STEM.

Hashnodau Twitter

Yr hashnod Twitter bob amser yw “ALD” gyda dau rif olaf y flwyddyn gyfredol, ee #ALD18 ar gyfer 2018 ac yn y blaen. Os hoffech chi gael hashnod ar gyfer eich digwyddiad eich hun, defnyddiwch ALD yn ogystal â’r enw dinas neu ddigwyddiad, ee #ALD18_Caerdydd. Os oes gennych le yn eich trydariad, mae croeso i chi gynnwys ein henw Twitter, @findingada, a byddwn yn ail-drydar pan fyddwn ni’n gallu.

Adnoddau am ddim

Taflenni a phosteri

Gallwch lawrlwytho nifer o dempledi taflenni a posteri o Figshare ym meintiau A3, A4, A5, llythyr UDA a hanner maint llythrennau’r UD. Mae’r holl ffeiliau ar gael yn fformatau PDF a PNG.

Os ydych yn newid maint y delweddau, gwnewch yn siŵr bod y testun yn parhau i fod yn ddarllenadwy ac y bydd yn cael ei gadw wrth ei argraffu.

Testunau disgrifiadol

Gallwch gopïo a gludo unrhyw beth o’r testun isod i’w ddefnyddio yn eich deunyddiau hyrwyddo. Cysylltwch â’n gwefan yn findingada.com bob amser ac, os gallwch, gynnwys ein henw twitter, @findingada.

Ynglŷn â Diwrnod Ada Lovelace (byr)

Mae Diwrnod Ada Lovelace yn ddathliad rhyngwladol o gyflawniadau menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy’n anelu at gynyddu proffil menywod yn STEM a chreu modelau rôl newydd ar gyfer merched a menywod sy’n astudio neu’n gweithio yn STEM.

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Ada Lovelace ar findingada.com ac ar Twitter @findingada.

Ynglŷn â Diwrnod Ada Lovelace (hir)

Mae Diwrnod Ada Lovelace (ALD) yn ddiwrnod dathlu rhyngwladol o gyflawniadau menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Ei nod yw cynyddu proffil menywod yn STEM ac, wrth wneud hynny, creu modelau rôl newydd a fydd yn annog mwy o ferched i mewn i yrfaoedd STEM a chefnogi menywod sydd eisoes yn gweithio yn STEM.

Fe’i sefydlwyd yn 2009 gan Suw Charman-Anderson, mae bellach yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar yr ail ddydd Mawrth o fis Hydref. Mae’n cynnwys Ada Lovelace Day Live!, digwyddiad blaenllaw ‘cabaret gwyddoniaeth’ yn Llundain, lle mae menywod yn STEM yn sôn am eu gwaith neu am ferched eraill sydd wedi eu hysbrydoli, neu yn perfformio golygfeydd comedi byr neu gerddorol gyda ffocws STEM.

Mae’r diwrnod hefyd yn cynnwys dwsinau o ddigwyddiadau ar draws y byd, wedi’u trefnu’n hollol annibynnol o ddigwyddiad ALD Live!. Mae’r digwyddiadau hyn yn cymryd llawer o ffurfiau – o gynadleddau i wledydd ‘golyg-a-thons’ i gwisiau tafarn – ac yn apelio at bob oedran, o ferched i fyfyrwyr prifysgol, i fenywod sydd â gyrfaoedd sefydledig.

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Ada Lovelace ar findingada.com ac ar Twitter @findingada.

Ynglŷn ag Ada Lovelace

Augusta Ada King, Iarlles Lovelace – adnabyddus yn awr fel Ada Lovelace – oedd y person cyntaf i gyhoeddi, yn 1843, yr hyn y byddem ni nawr yn galw rhaglen gyfrifiadurol. Disgrifiodd rhaglen Lovelace sut y gellid cyfrifo rhifau Bernoulli ar Beiriant Dadansoddol Charles Babbage, cyfrifiadur mecanyddol a gynlluniodd ond na chafodd ei adeiladu. Sylweddolodd Lovelace hefyd y gallai’r Peiriant Dadansoddol wneud mwy na dim ond cyfrifo rhifau. Roedd hefyd yn gallu, rhesymodd hi, creu cerddoriaeth a chelf, gyda’r data a’r algorithmau cywir. Byddai’n ganrif arall cyn i gyfrifiaduron o’r fath gael eu datblygu.

Darganfyddwch fwy am Ddiwrnod Ada Lovelace ar findingada.com ac ar Twitter @findingada, a darllenwch fywgraffiad Ada Lovelace hirach ar findingada.com/book/ada-lovelace-victorian-computing-visionary

Diolch yn fawr!

Mae Diwrnod Ada Lovelace mor llwyddiannus ag y mae oherwydd bod pobl fel chi yn cymryd rhan a threfnu’ch digwyddiadau eich hun. Mae’ch cyfraniad yn bwysig, nid yn unig ar gyfer y diwrnod ei hun ond ar gyfer y menywod a’r merched yn STEM yn eich cymuned.

Rydym yn gofalu am amrywiaeth nid yn unig oherwydd ei bod yn dda i fenywod a merched, ond oherwydd ei fod yn dda i bawb ohonom. Mae timau amrywiol yn meddwl yn wahanol ac yn datrys ystod ehangach o broblemau mewn ffyrdd sy’n helpu mwy o bobl.

Nid yw Diwrnod Ada Lovelace yn ymwneud â menywod yn STEM yn unig, mae’n ymwneud â’n dyfodol.

Diolch yn fawr i Nic Dafis, Leia Fee, Nicky Roberts a Dee.